Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
16 Tachwedd 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13046
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2, atebwyd gan Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.23
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2, 4 a 5 eu grwpio i’w hateb gyda’i gilydd. Atebwyd cwestiwn 7 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Am 15.10 cododd Joyce Watson Bwynt o Drefn ynghylch ymddygiad Gareth Davies yn ystod cwestiynau’r llefarwyr. Dywedodd y Llywydd y byddai’n disgwyl ymddiheuriad gan Gareth Davies, cyn y byddai’n cael ei alw i gymryd rhan yn nhrafodion y Siambr.
Am 15.13 cododd Huw Irranca-Davies Bwynt o Drefn ynghylch defnyddio cwestiynau’r llefarwyr i godi mater etholaethol. Ymatebodd y Llywydd mai mater i’r grwpiau pleidiau yw penderfynu sut i ddefnyddio’u cwestiynau llefarwyr ac, felly, mae’n ystyried bod y cwestiynau yn dderbyniol. Byddai’n ystyried y mater hwn ymhellach.
3 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Atebwyd gan Weinidog yr Economi
Vikki Howells (Cwm Cynon): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y newyddion diweddar bod Garth Bakery wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr?
Atebwyd gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru): Beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud i hyrwyddo cydlyniant cymunedol yn dilyn honiadau difrifol a wnaed am Heddlu Gwent?
4 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.25
Gwnaeth Joyce Watson ddatganiad am - Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang 2022 (14-20 Tachwedd).
Gwnaeth Joel James ddatganiad am - Diwrnod Diabetes y Byd (14 Tachwedd).
Cynnig i ethol Aelodau i bwyllgorau
Dechreuodd yr eitem am 15.29
NNDM8135 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol:
1. Peredur Owen Griffiths (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.
2. Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus.
3. Llyr Gruffydd (Plaid Cymru) yn aelod o Bwyllgor y Llywydd.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cynnig i ethol Aelod i'r Pwyllgor Deisebau
Dechreuodd yr eitem am 15.29.
NNDM8134 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Rhys ab Owen (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Senedd ar gyfer 2023-24 - Tynnwyd yn ôl
Tynnwyd yr eitem hon yn ôl
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Cysylltedd digidol – band eang
Dechreuodd yr eitem am 15.29
NDM8123 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Cysylltedd digidol – band eang’, a osodwyd ar 1 Awst 2022.
Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Tachwedd 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
7 Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig - Pwysau costau byw
Dechreuodd yr eitem am 16.18
NDM8129 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod y Senedd
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Pwysau costau byw a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 28 Gorffennaf 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Medi 2022.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
8 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Toiledau Changing Places
Dechreuodd yr eitem am 17.12
NDM8126 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mecanwaith ariannu addas a chanllawiau clir i awdurdodau lleol i sicrhau bod yna ddarpariaeth deg o doiledau Changing Places ym mhob sir yng Nghymru.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
9 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Deddf Diogelwch Adeiladau 2022
Dechreuodd yr eitem am 17.35
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8127 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r holl bleidiau gwleidyddol yn Senedd Cymru i hwyluso deddfiad prydlon sy'n ymgorffori adrannau 116 i 125 o Ddeddf Diogelwch Adeiladau 2022 i gyfraith Cymru i gryfhau hawliau trigolion yng Nghymru.
Dogfennau Ategol
Deddf Diogelwch Adeiladau 2022 (Saesneg yn unig)
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
0 |
28 |
55 |
Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y cynnig. Felly, gwrthodwyd y cynnig.
10 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 18.05
11 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 18.07
NDM8125 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Rasio ceffylau: ased economaidd ac ased chwaraeon i Gymru
Daeth y cyfarfod i ben am 18.32
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 22 Tachwedd 2022